SL(5)184 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae Rheoliadau 2015 yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt, neu y cynigiant eu darparu neu eu trefnu, wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rheoliadau 2015 hefyd yn cynnwys darpariaeth gyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o Reoliadau 2015 (codi ffioedd o dan Ran 5 o’r Ddeddf) fel a ganlyn:

— cynnydd yn yr uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl o £70 i £80,

— cynnydd yn y terfyn cyfalaf perthnasol am ofal preswyl o £30,000 i £40,000,

— cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal o £27.50 i £28.50.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 4 o Reoliadau 2015 (cyfraniadau ac ad-daliadau am daliadau uniongyrchol) fel a ganlyn:

— cynnydd yn yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl o £70 i £80,

— cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal ac sy’n cael taliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf o £27.50 i £28.50.

Gweithdrefn

Negyddol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

 

Mae Rheoliad 2(b) yn cynyddu’r terfyn cyfalaf sy’n gymwys i osod ffioedd am ofal preswyl o £30,000 i £40,000. Diben y terfyn cyfalaf yw pennu p'un a fydd unigolyn yn talu am gost lawn ei ofal preswyl ei hun, neu a fydd yn cael cymorth ariannol tuag at y gost hon gan ei awdurdod lleol.

Daw hyn fel rhan o ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy’n codi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £50,000 yn ystod tymor y Cynulliad.

Mae'r cynnydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, a dechreuodd y drefn hon ym mis Ebrill 2017 pan gafodd y terfyn mewn perthynas â gofal preswyl ei gynyddu i £30,000.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

2 Chwefror 2018